Senedd Cymru | Welsh Parliament
Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol | Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee
Datblygu’r ddarpariaeth Gymraeg ôl-16 |Development of post-16 Welsh language provision
Ymateb gan Cymdeithas yr Iaith | Evidence from Welsh Language Society
Mae meithrin y gallu i weithio a chyfathrebu'n Gymraeg yn ogystal â Saesneg yn sgil addysg hanfodol na ddylid amddifadu unrhyw fyfyriwr ohono. Fel arall, methiant addysgol sydd, nid methiant o ran y Gymraeg yn unig.
Mae hynny’n arbennig o wir i addysg ôl-16 gan fod y mwyafrif sy’n dilyn cyrsiau galwedigaethol a phrentisiaethau yn gwneud hynny mewn colegau addysg bellach lleol, gyda'r bwriad o gael gwaith yn lleol.
Dylai’r cyrsiau yma baratoi pobl ifanc ar gyfer y byd gwaith yn eu hardal leol, sy’n golygu paratoi pobl i weithio trwy'r Gymraeg.
Mae prinder darpariaeth ôl-16 Gymraeg, ond nid o ddiffyg awydd myfyrwyr i ddilyn cyrsiau Cymraeg. Yn ôl adroddiad gan Gomisiynydd y Gymraeg[1] mae darpariaeth Gymraeg yn "bwysig" neu yn "bwysig iawn" i dros 40% o bobl ifanc wrth benderfynu ar goleg.
Ar ben hynny mae diffyg dilyniant addysg cyfrwng Cymraeg yn y sector addysg ôl-16 yn tanseilio ac yn dibrisio addysg Gymraeg flaenorol mewn ysgolion.
Mae'r Coleg Cymraeg eisoes yn wynebu toriad mewn termau real. Roedd disgwyl i'r Coleg Cymraeg weld cynnydd yn ei chyllideb dros flynyddoedd ariannol 22/23-24/25, er bod cynnydd yn y ddwy flynedd gyntaf, ni fydd cynnydd eleni.
Mae canran o'r gyllideb yn cael ei chlustnodi ar gyfer ehangu i feysydd darpariaeth ôl-16 ychwanegol.
Rydyn ni'n cael ar ddeall y bydd cyllideb eleni yn golygu gallu cynnal y ddarpariaeth bresennol, ond na fydd modd gwneud gwaith i gynyddu nac ehangu darpariaeth ôl-16. Mae perygl felly y gallai ailgyfeirio £3.5miliwn arall effeithio ar y ddarpariaeth ôl-16.
Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol wedi dweud bod y galw am ddarpariaeth ôl-16 yn fwy na'r cyllid sydd ar gael ar gyfer y sector ac mai capasiti i gynnal darpariaeth i ddau neu dri chynllun peilot ym maes ôl-16 sydd ar hyn o bryd.
Mae gwerth mawr i'r cynlluniau peilot, mae un cwmni Cymraeg wedi cyflogi wyth prentis a thrwy gyllid gan y Ganolfan Dysgu Cenedlaethol yn neilltuo pedair awr yr wythnos ar gyfer dysgu neu ddatblygu Cymraeg y prentisiaid. Bydd sawl un o'r prentisiaid hynny yn cael eu cyflogi gan y cwmni ar sail eu sgiliau Cymraeg.
Eto felly, gallai ail-flaenoriaethu'r £3.5miliwn effeithio ar gynlluniau fel hyn.
Yr hyn sy'n glir yw bod nifer fawr o gyrff yn rhan o ddarparu addysg ôl-16: colegau, ysgolion, cyflogwyr, Awdurdodau Lleol (lle mae ysgolion yn cydweithio gyda cholegau ar ddarpariaeth ôl-16), y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol, Y Comisiwn Addysg Trydyddol ac Ymchwil. Mae perygl felly nad oes cydlynu clir rhwng y cyrff i gyd. Rydyn ni'n gweld hynny wrth i golegau fynnu nad oes digon eisiau dilyn cyrsiau trwy'r Gymraeg i gyfiawnhau eu darparu tra bod cyflogwyr yn dweud mai prinder cyrsiau Cymraeg yw'r rheswm nad ydyn nhw'n mynnu bod gan hyfforddeion sgiliau Cymraeg.
Yn hynny o beth mae angen datblygu strategaeth genedlaethol glir at addysg ôl-16, er mwyn i'r hynny o gyllid sydd ar gael gael ei ddefnyddio'n effeithiol.
Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith
Ebrill 2024